Pont Llandinam | |
Math | tref bost, pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 885 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Hafren |
Cyfesurynnau | 52.484612°N 3.435645°W |
Cod SYG | W04000292 |
Cod OS | SO028881 |
Cod post | SY17 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llandinam.[1] Saif rhwng Y Drenewydd a Llanidloes. Llandinam oedd trigfa David Davies (Llandinam), a fu'n gyfrifol am llawer o ddatblygu yn y Cymoedd ac allforio glo yn y 19g. Mae'r bont haearn hynaf yn Sir Drefaldwyn yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[3]
Yn 2003, fe fygythiwyd cau ysgol y pentref oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion; ond fe'i hachubwyd dros dro gan ymgyrch leol.