Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,262 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.39102°N 4.30059°W |
Cod SYG | W04000015 |
Cod OS | SH4710990708 |
Cod post | LL68 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref, cymuned a phlwyf sifil ar yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn yw Llaneilian. Cysegrwyd Eglwys Llaneilian i Sant Eilian; mae'n un o'r eglwysi hynaf ar yr ynys. Gerllaw mae Trwyn Eilian (Saesneg: Point Lynas) gyda'i oleudy a bae Porth Eilian. Arferai fod melin wynt gerllaw a elwid yn Felin Eilian. O fewn y gymuned mae hen blwyf eglwysig Llanwenllwyfo, gyda'i hen eglwys yn adfeilion a'i eglwys newydd.
Mae cymuned Llaneilian yn cynnwys pentref Penysarn yn ogystal â Llaneilian ei hun, ac Ynys Dulas. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,192.