Math | maestref, pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5272°N 3.1041°W |
Cod OS | ST235815 |
Cod post | CF3 |
Maestref yng Nghaerdydd yw Llaneirwg,[1] neu Llaneurwg yn wreiddiol (Saesneg: St Mellons). Lleolir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas yn agos i gyffordd Porth Caerdydd ar yr M4. Rhennir y faestref yn ddau gan ffordd y B4487 (Newport Road). Mae'r rhan ogleddol yn hŷn, ac yn ffurfio'r gymuned Hen Laneirwg (neu "Bentref Llaneirwg"); mae'r rhan ddeheuol – ystâd dai newydd – yn fwy, ac yn gorwedd yng nghymuned Trowbridge.