Neuadd y Dre | |
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 37,050, 25,359 |
Gefeilldref/i | Agen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.68°N 4.15°W |
Cod SYG | W04000519 |
Cod OS | SN505005 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanelli. Dyma dref fwyaf y sir a de-orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw 12 milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw 20 milltir i'r de o Gaerfyrddin. Mae Caerdydd 72.1 km i ffwrdd o Llanelli ac mae Llundain yn 281.6 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 15.2 km i ffwrdd.
Tyfodd y dref yn y 19g o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.
Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adwaenir fel Llanelli Wledig. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.