Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 412, 438 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,365.54 ha |
Cyfesurynnau | 52.188568°N 3.123269°W |
Cod SYG | W04000274 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanfair Llythynwg,[1] weithiau Llanfair Llythyfnwg (Saesneg: Gladestry). Saif 49 milltir (78.8 km) o Gaerdydd a 136.3 milltir (219.3 km) o Lundain. Saif y pentref i'r de o bentref Maesyfed ac yn agos i'r ffîn a Lloegr. Dyddia rhan hynaf yr eglwys i'r 13g. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg trwy'r pentref. Daw enw'r pentref o hen gwmwd Llythynwg, a feddianwyd gan y Normaniaid i greu arglwyddiaeth Maesyfed.
Heblaw pentref Llanfair Llythynwg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Eglwys Newydd a Llanfihangel Dyffryn Arwy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 419, gyda 12.4% yn siarad Cymraeg, y ganran uchaf ymhlith cymunedau yr hen Sir Faesyfed.