Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,541, 1,517 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,352.43 ha |
Cyfesurynnau | 52.3767°N 4.0783°W |
Cod SYG | W04000378 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Llanfarian. Saif y pentref ger y briffordd A487 ychydig i'r de o dref Aberystwyth. Llifa Afon Ystwyth gerllaw'r pentref.
Heblaw pentref Llanfarian ei hun, mae Cymuned Llanfarian yn cynnwys Blaenplwyf, Capel Seion, Rhydgaled, Moriah a Rhydyfelin. Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,442 yn 2001. Saif plasdy Nanteos o fewn y gymuned.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]