Eglwys Llangasty Tal-y-llyn | |
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.925402°N 3.262132°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Pentref bychan yng nghymuned Llan-gors, Powys, Cymru, yw Llangasty Tal-y-llyn (Seisnigiad: Llangasty-Talyllyn). Saif yn ardal Brycheiniog, 31 milltir (49.8 km) o Gaerdydd.
Gorwedd y pentref yn y bryniau rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain, ar lan de-ddwyreiniol Llyn Syfaddon. Mae Llangasty yn rhan o gymuned Llangors, sy'n cynnwys, heblaw pentref Llangors ei hun, bentrefi Llanfihangel Tal-y-llyn a Chathedin. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,045.
Codwyd yr eglwys yn yr Oesoedd Canol ond dim ond gwaelod ei thŵr sy'n dyddio o'r cyfnod hwnnw ar ôl i'r adeilad gael ei ailadeiladu'n sylweddol iawn yn y 19g.