Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 875, 817 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 606.43 ha |
Cyfesurynnau | 51.747°N 4.912°W |
Cod SYG | W04000946 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Llangwm.[1] Saif i'r de-ddwyrain o dref Hwlffordd ar lan orllewinnol Afon Cleddau, fymryn islaw cymer Afon Cleddau Wen ac Afon Cleddau Ddu.
Fel y ddau Langwm arall yng Nghymru (gweler Llangwm), cysegwryd yr eglwys leol i Sant Sierôm, ac mae'n cynnwys nifer o nodweddion diddorol. Prif ddiwydiant y pentref am flynyddoedd lawer oedd casglu pysgod cregyn, yn enwedig cocos.
Ar un adeg roedd y gymuned yn fwy, ond yn 1999 daeth y rhan ogleddol o amgylch Hook yn gymuned ar wahân. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 854.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]