Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,381, 2,628 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,314.91 ha |
Cyfesurynnau | 51.857°N 4.276°W |
Cod SYG | W04000531 |
Cod OS | SN433200 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangynnwr, hefyd Llangunnor. Saif y pentref fymryn i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ger glan ddeheuol Afon Tywi. Cysegrwyd yr eglwys, yn dyddio o'r 14g, i Sant Ceinwr. Mae David Charles yr emynydd a Lewis Morris y bardd Eingl-Gymreig wedi eu claddu yn y fynwent.
Heblaw pentref Llangynnwr ei hun, mae'r Gymuned yn cynnwys pentref Nant-y-caws a dwy o faesdrefi Caerfyrddin, Tregynnwr a Phen-sarn. Mae pencadlys Heddlu Dyfed-Powys o fewn y gymuned yma. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 2,282 gyda 67.24% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir cymuned Llangynnwr yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]