Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llangynyw |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.670329°N 3.291479°W |
Cod OS | SJ125085 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, ydy Llangynyw[1] (Saesneg: Llangyniew). Saif yn ardal Maldwyn ger Llanfair Caereinion. Mae'n gorwedd ar fryn sy'n codi mewn tro ar afon Banwy, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanfair Caereinion.
Mae eglwys y pentref wedi ei chysegru i Sant Cynyw. Tua 1.5 milltir i'r gogledd o'r pentref, wrth droed y bryn, ceir Mathrafal, safle llys brenhinoedd Powys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]