Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 8,966 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.53°N 3.43°W |
Cod SYG | W04000875 |
Cod OS | ST012818 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Huw Irranca-Davies (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Elmore (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf yw Llanharan (Cyfeirnod OS: ST002831). Saif ar y briffordd A473, rhwng Pencoed a Phontyclun. Daw'r enw o enw personol Haran, neu Aran neu efallai Aaron. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,421.
Yn wreiddiol roedd yn bentref amaethyddol, gyda phoblogaeth o 330 yn 1851. Dechreuodd diwydiant ddatblygu wedi i orsaf Rheilffordd De Cymru agor yno yn 1850. Agorwyd nifer o byllau glo yn y cylch, gyda phyllau Gogledd Llanharan a De Llanharan yn cyflogi 855 a 775 o weithwyr yn 1945.
Cysegrwyd yr eglwys i'r seintiau Julius ac Aaron o'r 3edd a'r 4g ac a ferthyrwyd gan y Rhufeiniaid yng Nghearleon[1]. Adeilad mwyaf nodedig y gymuned yw Llanharan House, a adeiladwyd yn niwedd yr 1740au gan Rees Powell, ac a ddatblygwyd ymhellach gan Richard Hoare Jenkins wedi iddo ef ei brynu yn 1795. Enw'r tŷ gwreiddiol ar y safle hon oedd Tŷ Mawr.[2]
Ceir pentref yn Treguier, Llydaw gyda'r un enw.