Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 478, 487 |
Nawddsant | Eigron |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,833.23 ha |
Cyfesurynnau | 52.0548°N 3.1501°W |
Cod SYG | W04000317 |
Cod post | HR3 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanigon.[1] Saif bron ar y ffîn a Lloegr, i'r de o'r Gelli Gandryll.
Ceir nifer o feddrodau o'r cyfnod Neolithig yma. Mae i'r ardal le pwysig yn hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru; dechreuodd Henry Maurice bregethu yma yn 1672, a sefydlwyd capel anghydffririol mewn hen ysgubor ym Mhen-yr-wrlodd yn 1707. Sefydlwyd ysgol yn Llwyn-llwyd gan David Price, a bu Howel Harris a William Williams, Pantycelyn yn astudio yno.
Yng Nghapel-y-ffin sefydlodd Joseph Lyne ("Y Tad Ignatius") fynachlog Fenedictaidd Anglicanaidd yn 1869. Yn ddiweddarach, daeth y fynachlog yn eiddo i Eric Gill.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 525.