Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 10,326 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.529°N 3.189°W |
Cod SYG | W04000999 |
AS/au | Anna McMorrin (Llafur) |
Cymuned ar gyrion Caerdydd yw Llanisien (ffurf Seisnigaidd, Llanishen). Ei nawddsant yw Isan.
Bu'n gartref i Ffatri Arfau'r Goron Caerdydd a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1987 daeth y ffatri yn Sefydliad Arfau Atomig yn swyddogol, ond roedd grwpiau heddwch fel CND Cymru eisoes yn ymwybodol fod gwaith ymchwil o'r fath yn digwydd yno a gwelwyd sawl protest mawr yno yn y 1980au. Caewyd y sefydliad yn Chwefror 1997 ac mae stadau tai wedi'u codi yno ers hynny.
Mae Parc Tŷ Glas yn gartref i swyddfeydd S4C ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ceir un o ganolfannau mawr yr Adran Trethi yno hefyd, sy'n rhan o ystad o swyddfeydd y llywodraeth ganolog.