Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 5,878 |
Gefeilldref/i | Ouagadougou |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.64°N 3.83°W |
Cod SYG | W04001022 |
Cod OS | SS735945 |
Cod post | SA11 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | David Rees (Llafur) |
AS/au y DU | Carolyn Harris (Llafur) |
Tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Llansawel[1] (Saesneg: Briton Ferry).[2] Saif i'r de o dref Castell-nedd.
Enwau ysgolion Llansawel yw Ynysmaerdy, Brynhyfryd a Llansawel ger Eglwys y Santes Mair. Yng ngorllewin Llansawel mae pentre Bedd y Cawr sydd wedi adeiladu ar farian terfynol Cwm Nedd ac yn y dwyrain mae ardal Ynysmaerdy. Yr enw Saesneg ar y dref yw Briton Ferry. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhan gyntaf yr enw yn gytras â'r elfen 'Bryddan' yn yr enw Brynbryddan, sydd dros y bryn ym mhentref Cwmafan (felly: 'Rhyd Bryddan' efallai).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]
Am ddegawadau Llansawel oedd cartref Ysbyty Gyffredinol Castell Nedd a oedd yn gwasanaethu yr ardaloedd o amgylch Port Talbot a Chastell-nedd ond nawr mae ysbyty newydd Gwaun Baglan wedi cymryd ei lle.