Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 14,111 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 174 metr |
Yn ffinio gyda | Caerdydd |
Cyfesurynnau | 51.5423°N 3.3785°W |
Cod SYG | W04001014 |
Cod OS | ST045835 |
Cod post | CF72 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mick Antoniw (Llafur) |
AS/au y DU | Alex Davies-Jones (Llafur) |
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Llantrisant. Mae'n enwog yn bennaf gan fod y Bathdy Brenhinol wedi'i leoli yno. Roedd hefyd yn enwog am ganolfan gwneud ymchwil ar arfau niwclar a bu llawer o brotestio yno gan CND ar un amser.
Mae Llantrisant - "eglwys y tri sant" - yn cael ei alw felly ar ôl tri o seintiau Cymreig: Illtud, Gwynno a Dyfodwg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]