Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 257, 253 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 9,591.55 ha |
Cyfesurynnau | 52.78476°N 3.49659°W |
Cod SYG | W04000321 |
Cod OS | SJ024191 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cymunedau Cymreig a ddinistrwyd |
---|
Cwm Tryweryn (1965) |
Mynydd Epynt (1949) |
Cwm Elan (1893) |
Llanwddyn (1888) |
WiciBrosiect Cymru |
Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanwddyn[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ardal Maldwyn ar lan ogleddol Afon Efyrnwy ger yr argae ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy. Tua hanner milltir i'r dwyrain o Llanwddyn ceir pentref Abertridwr.
Enwir plwyf Llanwddyn ar ôl Wddyn. Yn ôl traddodiad roedd y sant hwn, sydd fel arall yn anhysbys, yn feudwy a sefydlodd gell yno ac a ymwelai â chell y Santes Melangell dros y bryniau i'r gogledd ym Mhennant Melangell.[3]
Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn berchennog i’r tir o gwmpas Llyn Efyrnwy, ac mae ganddynt 3 cuddfan; 2 ar lannau’r llyn ac un, Coed y Capel, ger yr argae. Mae ganddynt hefyd swyddfa a siop gyferbyn â’r gyddfan Coed y Capel.[4]
Cynhelir Gŵyl Werin Llanwddyn yn neuadd y pentref Llanwddyn bob mis Medi.[5]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[6] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[7]