Math | pentrefan |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gwrin |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6157°N 3.7925°W |
Cod OS | SH787034 |
Cod post | SY20 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Pentref bychan a phlwyf yng nghymuned Glantwymyn, Powys, Cymru, yw Llanwrin[1][2] ( ynganiad ), sy'n gorwedd yn nyffryn Afon Dyfi, dwy filltir ir gogledd ddwyrain o Fachynlleth; yn hanesyddol bu'r pentref yn Sir Drefaldwyn. Caiff y pentref ei henw o'r eglwys a oedd ar un cyfnod wedi ei chysegru i Sant Gwrin. yr hen enw oedd 'Llanwrin yng Nghyfeiliog'.[3]
Roedd y gymuned yn ffynu ar un tro, gyda'i gofaint, tafarndy a siop. Mae'r rhain eisoes wedi cau; tan yn ddiweddar, casgliad o dai yn ymestyn ar hyd y B4404 oedd Llanwrin. Ond yn 2007, dechreuwyd gwaith adeiladu ar dai newydd ger canol y pentref, gyda'r gobaith o adfywio'r ardal leol.
Mae Llanwrin yn enwog yn lleol am ei "Ddyn Gwellt" sy'n ymddangos yn eistedd ar y fainc yng nghanol y pentref rwan ac yn y man. Does neb yn gwybod o ble ddaw na i ble diflanai, ond maent yn ei golli pan nad yw o gwmpas.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[5]