![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif, gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Iaith | Cymraeg ![]() |
Tudalennau | 126 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1282 ![]() |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Yn cynnwys | Llyfr Coch Hergest ![]() |
![]() |
Llawysgrif Hendregadredd yw un o'r llawysgrifau Cymreig cynharaf a phwysicaf i oroesi ac un o'n dwy brif ffynhonnell am waith Beirdd y Tywysogion, ynghyd â Llyfr Coch Hergest. Mae'r brif law yn dyddio o tua 1300-1310. Mae'n llawysgrif ar femrwn sy'n cynnwys 126 o dudalennau ac yn mesur 8.2 x 6 modfedd. Yn ddiweddarach, tua'r 1330au, ychwanegwyd rhai testunau o waith y cywyddwyr, gan gynnwys rhai o gywyddau Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg. Cred rhai ysgolheigion mai Dafydd ei hun a ysgrifennodd y testunau hynny.