![]() Cwrtmawr | |
Enghraifft o'r canlynol | casgliad o lawysgrifau ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1543 ![]() |
Genre | llenyddiaeth Gymraeg ![]() |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Perchennog | John Humphreys Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Casgliad sylweddol o lawysgrifau Cymraeg gwerthfawr a gasglwyd gan John Humphreys Davies o Gwrtmawr, ger Llangeitho, Ceredigion yw Llawysgrifau Cwrtmawr. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhodd gan Davies eu hun.
Mae'r casgliad yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y 18g. Testunau llenyddiaeth Gymraeg yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd. Trosglwyddwyd rhan gyntaf llawysgrifau Cwrtmawr i'r Llyfrgell Genedlaethol ym 1925 (llawysgrifau 1-50), a throsglwyddwyd y gweddill (llawysgrifau 51-1492) ar ôl marw J H Davies ym 1926.
Mae'r casgliad yn cynnwys llawysgrifau:
Plasty hynafol ger Llangeitho yw Cwrtmawr (hefyd Cwrt Mawr, Cwrt-mawr). Ceir atgofion T. I. Ellis amdano yn chwarter cyntaf yr 20g, pan fu'n gartref i J. H. Davies, yn y gyfrol Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru).[1]