Iaith | Cymraeg |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | llenyddiaeth Gymraeg y 18fed ganrif |
Llenyddiaeth Gymraeg |
---|
Rhestr llenorion |
Erthyglau eraill |
WiciBrosiect Cymru |
Cynrychiola llenyddiaeth Gymraeg y 19g "y cyfnod mwyaf cynhyrchiol" yn holl hanes llenyddiaeth Gymraeg, yn ôl Thomas Parry yn ei lyfr Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (1944), "a'r cyfnod a welodd gyfnewidiadau mawr iawn ym mhob agwedd ar fywyd y genedl—yn grefyddol, yn addysgol, yn gymdeithasol, yn wleidyddol. Ni bu mewn unrhyw ganrif arall gynifer o wŷr ymroddgar ac o arweinyddion tanbaid, ac y mae gweithgarwch llawer un ohonynt... bron yn syfrdanol."[1] Dyma gyfnod Daniel Owen, Ceiriog, Islwyn, Gwilym Hiraethog a llenorion cyfarwydd eraill. Dechreuodd gyda Twm o'r Nant, Iolo Morganwg a mudiad y Gwyneddigion ac aeth allan gyda tho newydd a gynrychiolir gan Owen Morgan Edwards, Emrys ap Iwan ac eraill, a gyda Syr John Morris-Jones yn gosod sylfeini ysgolheictod modern. Cyhoeddwyd nifer fawr o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a gweithiau cyfeiriadol fel Y Gwyddoniadur Cymreig, ac roedd amlder darllenwyr Cymraeg yn golygu bod y wasg Gymraeg yn ffynnu fel na fu erioed o'r blaen ac yn llawer mwy felly nag yn yr 20g neu'r ganrif bresennol. Ac eto, er gwaethaf y toreithrwydd hynny mae'r rhan fwyaf o haneswyr llên yn barnu o hyd, fel Thomas Parry, mai "cyfartaledd bychan iawn o gynnyrch y ganrif"[2] sydd o safon boddhaol. Ond gan fod cynnyrch y ganrif mor helaeth ac amrywiol ceir llawer o weithiau sydd o werth parhaol er hynny ac mae diddordeb hanesyddol llenyddiaeth y ganrif yn uchel, fel drych i'r gymdeithas Gymraeg a Chymreig a'i meddylfryd.