Lleucu Llwyd

Lleucu Llwyd, yn ôl traddodiad, oedd cariad y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen (fl. 1350 - 1390). Canodd y bardd un o'r cerddi enwocaf yn llenyddiaeth Gymraeg iddi pan fu farw, sef Marwnad Lleucu Llwyd.

Ychydig a wyddys amdani er ei bod mor enwog. Yn ôl y fawrnad, merch o Bennal, rhwng Machynlleth ac Aberdyfi, oedd Lleucu:

Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
Breuddwyd oer, briddo dy dâl![1]

Roedd hi'n wraig briod pan fu farw ond mae ansicrwydd am y dystiolaeth ynghylch ei gŵr: un Dafydd Ddu o Gymer (ger Abaty Cymer) yn ôl un ffynhonnell, Ieuan Ddu o'r Gydros yn ôl un arall a nodir gan Gruffudd Hiraethog yn yr 16g. Yn ôl Gruffudd cafodd fab o'r enw 'Y Coch'.

Er bod angerdd Llywelyn yn amlwg yn ei gerddi i Leucu ni ellir fod yn sicr eu bod yn gariadon fel y cyfryw. Ceir mwy nag un enghraifft yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr o farwnadau ffug hefyd, er enghraifft i gyd-feirdd, sy'n awgrymu'r posibilrwydd mai "canu'n iach" i'w cariad pan briododd hi oedd Llywelyn. Ac eto i gyd mae natur arbennig y farwnad enwog hon yn awgrymu'n gryf ei bod yn gerdd ddiffuant. Roedd claddu Lleucu, merch hardd fel golau'r lloer, fel dwyn pob goleuni o Wynedd:

Nid oes yng Ngwynedd heddiw
Na lleuad, na llewyrch, na lliw,
Er pan rodded, trwydded trwch,
Dan lawr dygn dyn loer degwch.[1]

Mae'n weddol sicr mai confensiwn pur sydd yn y 'caru', i ddangos cymaint yw colled y bardd. Sonnir amdani fel 'meistres y pryd', sef 'meistres y wledd' yn ei llys pan yn fyw, a sonnir am ei gwr, gan ei bod yn gadael ei heiddo bydol i'r 'gwr du balch'. Petai hi'n gariad iddo, fyddai o ddim wedi meiddio cyhoeddi hynny ar goedd mewn marwnad. Cofiwn beth ddigwyddodd i Ddafydd Nanmor pan feiddiodd gael perthynas efo Gwen o'r Ddôl. Mae'r dull serenâd yng nghanol y cywydd yn ychwanegu at y ddelwedd gonfensiynol o berthynas garwriaethol.

Rhaid ystyried hefyd fod ambell enw merch yn enw 'stoc' yn y traddodiad barddol. Mae'n bosibl bod myw nag un ferch o'r enw wedi bod yn destun canu serch yn y 14g. Dyfynnir darn o gywydd i un "Lleucu Llwyd" yn nhestun copi o un o ramadegau'r penceirddiaid sydd i'w dyddio i tua 1330, er enghraifft (rhy gynnar i Leucu Llywelyn).

Ceir nifer o destunau o Farwnad Lleucu Llwyd yn y llawysgrifau ac mae'r amrywiadau niferus ar y testunau diweddarach yn awgrymu bod cryn "mynd" ar y gerdd ar lafar ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Ceir nifer o gyfeiriadau at y gerdd yng ngwaith y beirdd hefyd, gan gynnwys Iolo Goch, oedd yn adnabod Llywelyn yn dda.

Cafwyd testunau rhyddiaith am amgylchiadau marw Lleucu yn ogystal, er enghraifft Breuddwyd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, un o destunau'r Areithiau Pros y ceir y copi gorau ohono yn llaw'r ysgolhaig Thomas Wiliems. Mae Lleucu Llwyd yn gân gwerin adnabyddus heddiw.

  1. 1.0 1.1 Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in