Lleuen

Lleuen
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonurdd, infra-urdd Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonTroctomorpha Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Pryfyn bach yw'r lleuen (lluosog: llau neu ) a cheir dros 3,000 gwahanol fath ohonyn nhw. Er mai pryfaid ydyn nhw, tydyn nhw ddim yn medru hedfan. Mae tri math wedi eu cofrestru fel 'Asiant cario Afiechydon Dynol'. Ectoparaseit ydyn nhw sy'n hoff iawn o waed mamaliaid. Er hyn tydyn nhw ddim i'w gweld ar Monotremes (y platypws a'r echidnas) na'r ystlum, y morfil, dolffiniaid y llamhidydd na'r pangolin.

Mae llau pen yn bryfed bychain o faint pen pin – 2–4 mm o hyd (maint hedyn sesame). Maen nhw'n bryfed brown llwydaidd, heb adenydd ac maen nhw'n byw drwy sugno gwaed o groen pen yr unigolyn. Mae eu hwyau'n smotiau gwyn a elwir yn nedd ac maen nhw wedi'u gludo wrth waelod y gwallt. Mae'r wyau'n cymryd 10 diwrnod i ddeor ac aeddfedu, a gallant atgynhyrchu’n gyflym, 10 i 14 diwrnod ar ôl deor. Bydd eu niferodd yn tyfu'n gyflym os na chânt eu trin. Mae llau pen yn gyffredin mewn plant rhwng 4 ac 11 oed o ganlyniad i gysylltiad agos yn yr ysgol. Gall unrhyw un gyda gwallt byr neu hir ddal llau pen.

Mae trosglwyddo'n digwydd drwy gysylltiad agos pen â phen rhwng pobl. Mae llau ddim ond yn para'n fyw am ychydig funudau pan fyddant i ffwrdd oddi wrth ben dynol, ac ni chânt eu cario gan anifeiliaid anwes.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in