Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pistyll |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9606°N 4.4489°W |
Cod OS | SH355431 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref yng nghymuned Pistyll, Gwynedd, Cymru, yw Llithfaen[1][2] ( ynganiad ). Saif ar arfordir gogleddol penrhyn Llŷn ger llechweddau deheuol Yr Eifl ar ffordd y B4417 o Lanaelhaearn i Nefyn.
Tyfodd y boblogaeth pan agorwyd nifer o chwareli gwenithfaen ar yr Eifl yn y 19g. Adeiladwyd llawer o dai newydd ac mae cyfrifiad 1881 yn dangos nifer fawr o fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Llŷn ei hun, o Benmaenmawr a chyn belled â'r Alban. Yn hanner cyntaf y 19g, cyn agor chwareli llithfaen lleol fel yr un yn Nant Gwrtheyrn, arferai nifer o dyddynwyr y plwyf ychwanegu at eu hincwm trwy dorri grug ar lethrau Tre'r Ceiri a'i gludo ar eu cefnau yn feichiau mawr i'w werthu fel tanwydd ym marchnad Pwllheli am 6 cheiniog y baich.[3]
Mae yno siop sydd yn gael ei redeg gan y gymuned a Thafarn Y Fic, sydd hefyd yn cael ei rhedeg gan gwmni cydweithredol.
O bentref Llithfaen mae modd cyrraedd Nant Gwrtheyrn ar hyd lôn sy'n arwain tua'r gogledd i gyfeiriad y môr. Yma y sefydlwyd y Ganolfan Iaith Genedlaethol. Ar un o dri chopa'r Eifl mae bryngaer enwog Tre'r Ceiri.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[5]