Llwynog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Canidae (rhan) |
Genera | |
Anifail ysglyfaethus yw'r llwynog neu cadno sy'n perthyn i deulu'r Canidae ynghyd â bleiddiaid a chŵn. Y llwynog coch yw'r math mwyaf cyffredin o ddigon, ac mae ei gynffon drwchus a'i flewyn coch yn olygfa gyfarwydd yng nghefn gwlad Cymru. Cigysydd yw'r llwynog, ac mae ganddo ddannedd miniog i ddal a bwyta ei fwyd. Mae'n bwyta cwningod, adar, llygod a nifer o anifeiliaid bach eraill. Mae amaethwyr yn gweld y llwynog fel pla gan ei fod yn lladd rhai anifeiliaid fferm, yn benodol ieir ac ŵyn; i'r perwyl hwnnw bu hela llwynogod yn draddodiad hir yng Nghymru. Gwaharddwyd hela llwynogod â chŵn yng Nghymru a Lloegr drwy ddeddf gwlad yn y flwyddyn 2005; er hynny mae tystiolaeth nad yw'r traddodiad wedi dod i ben yn llwyr.[1] Mae'r llwynog yn ddiarhebol o gyfrwys a gellir defnyddio cadno neu llwynog i ddisgrifio rhywun cyfrwys neu dwyllodrus. Defnyddir cadno o ddiwrnod hefyd i ddisgrifio diwrnod "twyllodrus", pan fo'r tywydd yn braf yn y bore ond yn troi'n annifyr yn ystod y dydd. Bu'r llwynog yn rhan bwysig o draddodiadau a llên gwerin Cymru ar hyd y canrifoedd, fel y blaidd. Yn fwy diweddar mae soned fyw R. Williams Parry, Y Llwynog, yn un o hoff gerddi Cymraeg pobl Cymru.[2] Llwynog enwocaf y Gymraeg, fodd bynnag, yw Siôn Blewyn Coch, a ymddangosodd gyntaf yn Llyfr Mawr y Plant ddechrau'r ugeinfed ganrif ac a fu wedyn yn brif gymeriad yn un o ffilmiau cynharaf S4C, Siôn Blewyn Coch a grëwyd ar gyfer Nadolig 1986, ac a ailddarlledwyd droeon ers hynny.