Llwyth (drama)

Llwyth
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Poster swyddogol y ddrama
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Drama Gymraeg gan Dafydd James ac a berfformiwyd yn wreiddiol gan gwmni theatr Sherman Cymru ydy Llwyth. Adrodda hanes bedwar ffrind hoyw o Gaerdydd ar noson gêm rygbi rhyngwladol. Cyfarwyddwyd y ddrama gan Arwel Gruffydd,[1] a chwaraewyd rhannau'r prif gymeriadau gan Simon Watts, Danny Grehan, Paul Morgans, Michael Humphreys a Siôn Young. Disgrifiodd Gruffydd y ddrama sydd fel Sex and the City a Queer as Folk, gydag ychydig o Braveheart ynddo hefyd.[2]

Cyhoeddwyd y ddrama gan Gwasg Cambrian, Aberystwyth gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru. Yn 2011, cyhoeddwyd y byddai'r ddrama'n cael ei pherfformio yng Ngŵyl Caeredin cyn mynd am daith am yr eildro ym Medi a Hydref.[3]

  1. Llwyth begins new Chapter for Sherman Cymru Laura Chamberlain. BBC Wales Arts. 13-04-2010. Adalwyd ar 09-05-2010
  2. Theatre Preview: Part of the tribe. Wales Online. Karen Price. 09-04-2010. Adalwyd ar 09-05-2010
  3. Gwefan Sherman Cymru Archifwyd 2010-08-10 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 16-07-2011

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy