Llyffantod a brogaod | |
---|---|
Llyffant, Tregaron, Ceredigion | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Is-ffylwm: | Vertebrata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anura Merrem, 1820 |
Is-urddau | |
Grŵp o amffibiaid yn perthyn i'r urdd Anura (o'r Groeg 'an' neu 'dim' ac 'aoura' sef 'cynffon') yw'r llyffant neu froga. Mae tua 4,800 o rywogaethau sy'n byw ledled y byd, yn enwedig mewn mannau llaith yn y trofannau, sef dros 85% o ymlusgiaid. Mae ganddynt gorff tew a byr, pen mawr a choesau ôl hir ac maent yn gigysyddion. Does gan yr oedolyn ddim cynffon.
Mae'r ffosil hynaf sydd wedi'i ganfod o lyffant yn ffosil o 'broto-lyffant' a ymddangosodd yn yr epoc y Triasic cynnar, a hynny ym Madagasgar, ond credir fod eu tarddiad yn llawer hŷn: y cyfnod Permaidd, 265 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Nodweddir corff y llyffant gan lygaid mawr sy'n ymestyn allan o'r corff, tafod hir, coesau sy'n plygu'n daclus a diffyg cynffon. Er mai pyllau dŵr a thir gwlyb, ydy cynefin y rhan fwyaf o frogaod, gall oedolion ambell rywogaeth fyw o dan y ddaear neu ar goed. Mae ei groen yn chwarenog, gyda secretiad cas, drewllyd neu angheuol. Ceir cryn amrywiaeth o ran lliw'r croen, gyda chuddliw'n chwarae rhan bwysig yn hyn o beth: gall amrywio o frown i lwyd i wyrdd ac ar adegau lliwiau ffyrnig megis coch neu felyn neu ddu i ddychryn ei ysglyfaeth.
Yn gyffredinol, mewn dŵr mae'r llyffant yn dodwy ei wyau, a elwir yn grifft, ac maent yn deor yn y dŵr fel penaubyliaid bychan gyda chynffonau hir a thagellau mewnol a chegau ar gyfer bwyta llysdyfiant yn hytrach na chig. Cwbwlheir y cylch bywyd pan drawsnewidiant i ffurf oedolyn. Ar dir mae ambell rywogaeth yn dodwy ei wyau ac eraill yn hepgor y cyfnod penbwl. Er mai cigysyddion ydy'r rhan fwyaf o rywogaethau, mae rhai'n hollysol ac mae rhai'n gwledda ar ffrwyth.
Mae poblogaeth llyffantod yn gyffredinol wedi gostwng yn eithriadol ers y 1950au. Mae dros treuan ohonyn nhw, bellach, dan fygythiad, gyda dros 120 wedi darfod ers 1980.[1] Maen nhw'n cael eu difa gan lawer o afiechydon modern megis chytridiomycosis, a hynny drwy'r byd ac maent yn ffefryn i'w bwyta gan lawer o rywogaethau gan gynnwys dyn.