Llyffant dafadennog

Llyffant dafadennog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Amphibia
Urdd: Anura
Teulu: Bufonidae
Genws: Bufo
Rhywogaeth: B. bufo
Enw deuenwol
Bufo bufo
Linnaeus, 1758

Mae'r llyffant dafadennog (neu lyffant du; Lladin: Bufo bufo; Saesneg: common toad) i'w gael ledled Ewrop (ac eithrio Iwerddon a Gwlad yr Iâ): gogledd-orllewin Affrica a gogledd Asia hyd Tsieina, Corea a Japan. Mae'n amffibiad, sy'n bwydo ar bryfed, gwlithod, abwyd ac weithiau ymlusgiaid a llygod bach. Gall gynhyrchu gwenwyn o fewn chwarennau arbennig yn ei groen. Mae'n cuddio yn ystod y dydd ac yn bywiogi pan ddaw'r cyfnos. Mae'n gigysydd sy'n gloddesta ar greaduriaid diasgwrn cefn. Fel yr awgryma'r enw Cymraeg, mae ei gorff llwydfrown, yn aml, wedi'i orchuddio gyda chwarennau hyll. Un o'i nodweddau pennaf yw'r modd y mae'n sboncio cerdded.

Er ei fod fel arfer yn mwynhau ei gwmni ei hun, pan ddaw'n amser cyplysu, daw nifer o lyffantod dafadennog at ei gilydd, gyda'r gwrywod yn cystadlu'n eiddgar yn erbyn ei gilydd am fenyw. Mae'r wyau'n cael eu dodwy mewn dŵr - mewn llinellau gludiog a gelwir swp o'r rhain yn grifft. Allan o'r grifft yma mae'r penbyliaid yn deor. Am sawl mis mae'r corff yn trawsnewid a cheir coesau ac ysgyfaint erbyn y mae'n oedolyn. Am weddill ei oes, mae'r oedolyn, fel arfer, yn byw ar y tir.

Gwelwyd gostyngiad bychan yn eu niferoedd, er nad yw'r gostyngiad hwn yn peri pryder i'r IUCN. Y rheswm pennaf am hyn yw lleihad yn y cynefinoedd, yn enwedig sychu'r tir neu ffyrdd. Caiff y creadur diniwed hwn ei gysylltu mewn hen chwedlau gyda hud a lledrith a gwrachod.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in