Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | c. 1350 |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai llawysgrifau Cymreig a ysgrifennwyd yn Lladin sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun Y Gododdin gan Aneirin a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r 6g efallai, er yr anghytunir am hynny.
Llawysgrif femrwn 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr croen llo du rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.[1]
Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd Dafydd Nanmor (fl. 1450-80) o Wynedd a Gwilym Tew (fl. 1460-80) o Forgannwg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell Hengwrt, Meirionnydd, lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yn yr 17g. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i Aberdâr ac yna i feddiant yr hanesydd Theophilus Jones ac wedyn i Carnhuanawc. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i Lyfrgell Dinas Caerdydd lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).
Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r Gododdin, ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r testunau eraill a geir ynddi, rhai ohonynt yn gymysg â thestun y Gododdin ei hun, yn cynnwys yr hwiangerdd unigryw Pais Dinogad; marwnad i arwr a syrthiodd ym Mwrydr Strathcarron; penillion gwirebol Gorchan Addefon a Gorchan Maeldderw a briodolir i'r bardd Taliesin a ganai yn yr Hen Ogledd yn yr un ganrif ag Aneirin.