Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Iaith | Lladin, Cymraeg |
Cysylltir gyda | Roman Catholic Bishop of Llandaff |
Tudalennau | 128 |
Dechrau/Sefydlu | 1120 |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Perchennog | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llawysgrif o'r 12g yw Llyfr Llandaf (Lladin: Liber Landavensis). Mae'r llawysgrif, sy'n cynnwys 128 o dudalennau vellum, yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes eglwysig Cymru.
Credir i Lyfr Llandaf gael ei ysgrifennu rhwng 1120 a 1140, dan arolygaeth Urban, Esgob Llandaf. Roedd anghydfod rhwwng Llandaf ac esgobion Tyddewi a Henffordd ynghylch ffiniau'r esgobaeth, a bwriad y llyfr oedd profi hawliau Llandaf. Cynhwysir copiau o nifer fawr o siarteri yn amlinellu rhoddion o dir ac eiddo cyn belled yn ôl a'r 5g; rhai o'r siarteri yn rhai dilys ond eraill yn ffugiadau. O'r siarteri dilys, mae tua 40% yn perthyn i'r 8g a 20% i ran olaf y 9g. Ceir hefyd fucheddau tri sant a gysylltir a Llandaf, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy (Oudoceus). Yn Lladin mae'r rhan fwyaf, ond mae Fraint Teilo mewn Cymraeg Canol gyda chyfieithiad Lladin.
Ychydig yn ddiweddarach, yn y 12g a dechrau'r 13g, ychwanegwyd bucheddau'r seintiau Samson ac Elgar a nifer o lythyrau.
Mae'r hanesydd Wendy Davies wedi ceisio ail-greu llawr o'r testunau gwreiddiol. Roedd y llawysgrif yn eiddo i deulu Davies, Llanerch yn yr 17g. Mae'n awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, MS 17110 E. Bwriedid ei hail-rwymo yn ystod 2007.