Math | llyfrgell gyhoeddus |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 14.4 metr |
Cyfesurynnau | 51.4779°N 3.1755°W |
Cod post | CF10 1FL |
Rheolir gan | Cyngor Caerdydd |
Perchnogaeth | Cyngor Caerdydd |
Llyfrgell Ganolog Caerdydd (hen enw: Llyfrgell Dinas Caerdydd) yw'r brif lyfrgell yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma'r pedwerydd adeilad i gario'r enw hwn. Agorwyd yr adeilad presennol ar 14 Mawrth 2009.[1] Cafodd llyfrgell gyntaf Caerdydd ei hagor yn 1861 a galwyd hi yn Cardiff Free Library, fe'i hehangwyd maes o law i fod y Cardiff Free Library, Museum and Schools for Science and Art.