Llyn Crafnant

Llyn Crafnant
Mathcronfa ddŵr, llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrefriw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.235 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr188 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.131675°N 3.871443°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganYmddiriedolaeth Crafnant Edit this on Wikidata
Map

Llyn yn sir Conwy yw Llyn Crafnant. Saif ar ochr ogleddol Coed Gwydyr ac oddi tan grib Cefn Cyfarwydd. Mae bron filltir o hyd, gydag arwynebedd o 63 acer a dyfnder o 71 troedfedd yn y man dyfnaf. Llifa Afon Crafnant o'r llyn i ymuno ag Afon Conwy.

Adeiladwyd argae yma yn 1874, a gerllaw mae cofeb a godwyd gan drigolion Llanrwst yn 1896 fel arwydd o ddiolgarwch am y rhodd iddynt o'r llyn a 19 acer o dir gan Richard James.

Llyn Geirionydd (ch.) a Llyn Crafnant (dde), gyda Mynydd Deulyn yn eu gwahanu

Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd o Drefriw neu gerdded o ardal Llyn Geirionydd dros Fynydd Deulyn. Ceir maes parcio sy'n eiddo'r Comisiwn Coedwigaeth yma, a cheir pysgota am frithyll.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in