Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0542°N 4.2178°W |
Cod OS | SH515535 |
Llyn yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd yw Llyn Nantlle Uchaf. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 80 acer, i'r de o'r ffordd B4418 rhwng Talysarn a Rhyd Ddu, gerllaw pentref Nantlle.
Ar un adeg roedd dau lyn yma, ond gyda datblygiad y diwydiant llechi sychwyd Llyn Nantlle Isaf i geisio lleihau llifogydd yng ngweithfeydd Chwarel Dorothea gerllaw. Mae cysylltiadau â chwedl Math fab Mathonwy; rhwng y ddau lyn y cafodd Gwydion hyd i Lleu Llaw Gyffes ar ffurf eryr. Yn ddiweddarach, roedd Marged uch Ifan yn cadw tafarn gerllaw.
Afon Drws-y-Coed yw'r fwyaf o'r afonydd a nentydd sy'n llifo i'r llyn, tra mae Afon Llyfni yn tarddu yma ac yn llifo tua'r gorllewin i gyrraedd y môr ger Pontllyfni.