Llyn Peipus

Llyn Peipus
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Estonia Estonia
Baner Rwsia Rwsia
Arwynebedd3,543 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr30 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.6767°N 27.4917°E Edit this on Wikidata
Dalgylch47,800 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd143 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Llyn mawr ar y ffin rhwng Estonia a Rwsia yw Llyn Peipus (Estoneg Peipsi-Pihkva järv; Rwsieg Чудско-Псковское озеро / Chudsko-Pskovskoe ozero; Almaeneg Peipussee). Fe yw'r pumed llyn o ran maint yn Ewrop, ag arwynebedd o 3,500 km², a'r llyn mwyaf yn Ewrop sy'n gorwedd ar ffin dwy wladwriaeth.

Mae tair rhan i'r llyn:

  • Llyn Peipsi/Chudskoe (Estoneg: Peipsi järv, Rwsieg: Чудское озеро) ydyw rhan ogleddol y llyn, 2670 km² o ran maint.
  • Llyn Pihkva/Pskovskoe (Estoneg: Pihkva järv, Rwsieg: Псковское озеро) ydyw rhan ddeheuol y llyn, 710 km² o ran maint.
  • Llyn Lämmi/Teploe (Estoneg: Lämmijärv, Rwsieg: Тёплое озеро) ydyw'r stribyn sy'n cysylltu'r ddwy ran fawr, 170 km² o ran maint.


Eginyn erthygl sydd uchod am Estonia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy