Llys Aberffraw

Llys Aberffraw
Arfau llinach Aberffraw
Enghraifft o'r canlynolteulu o uchelwyr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Rhan oteulu brenhinol Gwynedd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSyr John Wynn Edit this on Wikidata
SylfaenyddAnarawd ap Rhodri Edit this on Wikidata
Enw brodorolLlinach Aberffraw Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llys brenhinol a llinach frenhinol, ganoloesol oedd Llys Aberffraw gyda'u pencadlys ym mhentref Aberffraw, Ynys Môn, o fewn ffiniau Teyrnas Gwynedd ar y pryd. Sefydlwyd y llinach yn y 9g gan Rhodri Mawr, Brenin Cymru gyfan, a sefydlodd gyda'i ddisgynyddion 'Lysoedd Brenhinol Cymru'. Ceir dwy linach Gymreig ganoloesol arall: Llys Brenhinol Dinefwr, a Llys Brenhinol Mathrafal. Yn nhestunau cyfreithiol yr oes, fe'i disgrifir fel 'eisteddle arbennig' llinach Gwynedd. Mabwysiadodd Llywelyn ap Iorwerth y teitl 'Tywysog Aberffraw' er mwyn pwysleisio ei statws unigryw.[1] Hyd yn oed erbyn 1377 roedd cefnogwyr Owain Lawgoch yn pwysleisio 'ei fonedd o Aberffraw'.

Ystyrir bod y Llys Brenhinol yn derm hanesyddol ac achyddol y mae haneswyr yn ei ddefnyddio i ddarlunio llinell yr olyniaeth oddi wrth Rhodri Mawr Cymru trwy ei fab hynaf Anarawd o'r 870au OC.[2][3] Ffynnodd y llinach am ganrifoedd nes tranc y teulu brenhinol yn ystod y 13g oherwydd ymosodiadau parhaus byddin Lloegr yn enwedig ymosodiad Edward I ar Gymru, marw'r Tywysog Llywelyn II ar 11 Rhagfyr 1282, a Dafydd III ei fab yn 1283. Disgynnydd uniongyrchol llinellol olaf Llys Aberffraw oedd Owain Lawgoch, a fu farw yn y 14g. Ers hynny mae sawl teulu bonheddig Cymreig wedi honni eu bod yn ddisgynyddion gwrywaidd o deulu.[4]

Yn draddodiadol rhanwyd Gwynedd yn ddwy ardal: "Gwynedd Uwch Conwy a "Gwynedd Is Conwy, gydag Afon Conwy yn ffin rhwng y ddwy ran.

Yn ôl Historia Brittonium (‘Hanes y Brythoniaid’, 9g) roedd Cunedda Wledig[5] a'i feibion wedi dod i lawr i ogledd-orllewin Cymru o'r Hen Ogledd, sef rhan ddeheuol yr Alban yn awr, er mwyn erlid y Gwyddelod o Wynedd, gan sefydlu teyrnas Gwynedd yn sgil hynny.[6] Yr hen enw mewn Lladin oedd Venedotia.[7] Mae dadlau ynghylch pryd digwyddodd hyn, gyda’r dyddiadau'n amrywio o ddiwedd y 4g i ddechrau’r 5g OC.

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008.
  2. Davies 1994, tt. 116,128,135,136.
  3. Lewis 1889, tt. 192–200.
  4.  Stephen, Leslie; Lee, Sidney, gol. (1890). "Gruffydd ab Cynan" . Dictionary of National Biography. 23. Llundain: Smith, Elder & Co. tt. 301–304.
  5. "CUNEDDA WLEDIG (fl. 450?), tywysog Prydeinig | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  6. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 202–3. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  7. A glossary of mediaeval Welsh law, based upon the Black book of Chirk. National Library of Scotland. Manchester : The University Press. 1913. Unknown parameter |Medi= ignored (help); |first= missing |last= (help)CS1 maint: others (link)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in