Math | safle archaeolegol, palas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.161922°N 4.365802°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN129 |
Cynhelid un o lysoedd pwysicaf Twysogion Gwynedd yn Llys Rhosyr, ger pentref Niwbwrch yn ne-orllewin Môn heddiw. Dyma maenor Cantref Rhosyr, i'r de o gantref brenhinol Aberffraw.
Fel pob maenor cwmwd a chantref arall yn y deyrnas byddai Rhosyr a'i swyddogion wastad yn barod i groesawu ymweliad gan y tywysog a'i lys pan âi ar ei gylchdaith yng Ngwynedd. Roedd y llys ei hun ynghanol maerdref fach yng nghwmwd Menai oedd yn ei chynnal ar ran y tywysog.
Yn 1992 dechreuodd Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd gloddio ar y safle ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1995. Llys Rhosyr yw'r unig safle o'i fath sydd wedi'i gloddio hyd yn hyn. Erbyn heddiw mae olion tua chwarter y muriau yn y golwg, yn cynnwys y prif fur amgylchynnol a sylfeini a muriau isaf tri adeilad mawr. Tybir fod y mwyaf o'r rhain yn gartref i'r llys ei hun a bod adeilad cyfagos yn ystafell neu ystafelloedd frenhinol. Byddai disgwyl i un o'r stafelloedd gael ei ddefnyddio fel trysordy lleol yn ogystal. Cafwyd hyd i nifer o wrthrychau archaeolegol, gan gynnwys crochenwaith a darnau arian bath.
Cafodd y llys ei esguleuso ar ôl goresgyniad Gwynedd gan Edward I, brenin Lloegr, ym 1282. Symudwyd Cymry lleol o ardal Llan-faes i fwrdeistref newydd Niwbwrch ond mae tynged y llys yn y cyfnod hwnnw yn anhysbys. Gwyddom fod y Saeson wedi dinistrio llys Aberffraw a safleoedd eraill. Yng ngaeaf 1330 claddwyd y safle dan dywod yn ystod storm ofnadwy a laddodd dros gant o drigolion Niwbwrch.
Mae'r safle archaeolegol ar agor trwy'r amser a cheir arddangosfa yn y pentre yn ogystal.