Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,743, 2,736 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 566.82 ha |
Cyfesurynnau | 53.283°N 3.666°W |
Cod SYG | W04000132 |
Cod OS | SH887771 |
Cod post | LL29 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Llysfaen.[1][2] Saif ar arfordir gogledd y sir, hanner milltir o'r môr tua hanner ffordd rhwng Abergele i'r dwyrain a Bae Colwyn i'r gorllewin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas, Dolwen a Betws-yn-Rhos. I'r dwyrain ceir Mynydd Marian. Mae tua 2,680 o bobl yn byw yno ([1] Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback 2005). Mae'r gymuned yn cynnwys stad Peulwys.
Heddiw mae'r pentref yn rhan o sir Conwy, ond hyd 1923 bu'n alldir o'r hen Sir Gaernarfon wedi ei amgylchu'n gyfangwbl gan yr hen Sir Ddinbych; bu'n rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gantref Rhos. Mae eglwys Sant Cynfran yn dyddio i'r Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad lleol fe'i sefydlwyd gan y sant yn y flwyddyn 777.
Am gyfnod hir bu llawer o bobl y pentref yn gweithio yn chwareli calchfaen cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Cludai llongau arfordirol y calchfaen i Lerpwl neu Fleetwood o Sieti Rayne ym Mae Llanddulas.
Ceir ysgol gynradd leol, Ysgol Cynfran, siop SPAR, neuad y pentref, a thri pharc.