Llywydd Senedd Cymru

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Llywydd Senedd Cymru neu y Llywydd (Saesneg: Presiding Officer) yw'r aelod a etholir gan Aelodau eraill yn Senedd Cymru i gadeirio eu sesiynau llawn (plenari), i gadw drefn yn y siambr, ac i amddiffyn hawliau'r Aelodau. Er bod gan y swydd deitl Saesneg hefyd (Presiding Officer), defnyddir yr enw Llywydd ar lawr y Cynulliad yn y ddwy iaith.

Yn ogystal mae'n arwain y corff yn y Senedd a adweinir fel Comisiwn Senedd Cymru ac felly'n gweithredu fel cynrychiolydd i'r sefydliad ar achlysuron swyddogol. Etholir un Dirprwy Lywydd i'w gynorthwyo. Lleolir swyddfa'r Llywydd yn Nhŷ Hywel ar Fae Caerdydd.

Y Llywydd cyntaf oedd Dafydd Elis-Thomas (a apwyntiwyd am y tro cyntaf yn 1999, ac eto am yr ail a'r trydydd dro yn 2003 a 2007), a fe'i ddilynwyd gan Rosemary Butler (a apwyntiwyd yn 2011) ac Elin Jones (a apwyntiwyd yn 2016).[1][2]

  1. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36266554
  2. http://www.cynulliad.cymru/cy/memhome/Pages/Etholiad.aspx[dolen farw]

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in