Arwyddair | Union, Justice, Confidence |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Louis XIV, brenin Ffrainc |
Prifddinas | Baton Rouge |
Poblogaeth | 4,657,757 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Give Me Louisiana, You Are My Sunshine, Louisiana My Home Sweet Home |
Pennaeth llywodraeth | John Bel Edwards |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Canolog, America/Chicago, UTC−06:00, UTC−05:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 135,382 km² |
Uwch y môr | 30 metr |
Gerllaw | Gwlff Mecsico, Afon Mississippi, Llyn Pontchartrain, Afon Sabine |
Yn ffinio gyda | Texas, Arkansas, Mississippi |
Cyfesurynnau | 31°N 92°W |
US-LA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Louisiana |
Corff deddfwriaethol | Louisiana State Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Louisiana |
Pennaeth y Llywodraeth | John Bel Edwards |
Mae Louisiana yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, ar lan Gwlff Mecsico, a groesir gan Afon Mississippi; mae delta'r afon yn dominyddu'r gwastediroedd arfordirol yn ne'r dalaith. Yr unig ardal ucheldirol o bwys yw'r ardal o gwmpas Afon Goch yn y gogledd-orllewin. Yr Ewropeiaid cyntaf i lanio yno oedd y Sbaenwyr, ond fe'i hawliwyd gan Ffrainc a'i henwi ar ôl y brenin Louis XIV o Ffrainc yn 1682. Fe'i rhoddwyd i Sbaen yn 1762 ond dychwelwyd i feddiant Ffrainc yn 1800. Roedd Louisiana yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith yn 1812. Cefnogai'r De yn Rhyfel Cartref America. Baton Rouge yw'r brifddinas ac mae New Orleans yn borthladd bwysig ar lan y Mississippi.
Llysenw Louisiana yw "y Dalaith Greol" (Saesneg: the Creole State) am ei bod yn gartref i nifer o Greoliaid o dras Ffrengig a Sbaenaidd.[1]