Math | maes awyr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caernarfon |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 4 metr |
Cyfesurynnau | 53.1017°N 4.3375°W |
Maes Awyr Caernarfon Caernarfon Airport | |||
---|---|---|---|
IATA: none – ICAO: EGCK | |||
Crynodeb | |||
Rheolwr | Air Caernarfon Limited | ||
Gwasanaethu | Caernarfon | ||
Lleoliad | Caernarfon, Gwynedd | ||
Uchder | 14 tr / 4 m | ||
Gwefan | |||
Lleiniau glanio | |||
Cyfeiriad | Hyd | Arwyneb | |
tr | m | ||
02/20 | 3,543 | 1,080 | Asffalt |
08/26 | 3,077 | 938 | Asffalt |
Lleolir Maes Awyr Caernarfon (ICAO: EGCK) i'r de-orllewin o Gaernarfon yng Ngwynedd, Cymru. Mae'n faes awyr hedfan sifil.
Mae gan gwmni Maes Awyr Caernarfon Drwydded Gyffredin y CAA (Rhif P866), sy’n caniatáu hedfan gwasanaethau cludiant cyhoeddus i deithwyr gan y cwmni trwyddedig, Air Caernarfon Cyf. Dydy'r maes awyr ddim yn drwyddedig am ddefnydd yn ystod y nos.[1]
Ceir caffi mawr yn y maes awyr, yn ogystal ag awyrendai cynhaliaeth a storfa, canolfan ymwelwyr a siop, sydd yn rhan o’r Amgueddfa Awyr ar y safle. Mae Academi Awyr Gogledd Cymru a Heliganolfan Caernarfon yn ysgolion hedfan sydd wedi'u lleoli ar y safle.