Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Maesyfed |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.24°N 3.16°W |
Cod OS | SO212609 |
Cod post | LD8 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Fay Jones (Ceidwadwyr) |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Maesyfed[1][2] (Saesneg: New Radnor). Saif ne'r sir, yn agos i'r ffîn a Lloegr, ger cyffordd yr A44 a'r B4372, i'r dwyrain o dref Llandrindod.
Ar un adeg, y pentref oedd canolfan arglwyddiaeth Maesyfed, a chynlluniwyd y dref fel bwrdeisdref. Daeth Gerallt Gymro yma gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188. Wedi ffurfio Sir Faesyfed, Maesyfed oedd y brif dref hyd y 17g, pan ddaeth Llanandras yn brif dref yn ei lle.
Mae'r enw i'w ganfod mewn ysgrifen mor gynnar a 991 ar ffurf 'maes hefed'. Ystyr 'maes' ydy 'cae' neu dir agored ac enw person yw 'Hyfaidd'. Arferid galw'r dyffryn lle saif Maesyfed yn Fro Hyfeid.
Ceir castell yma, a adeiladwyd gan William Fitz Osbern Iarll Henffordd tan iddo farw yn 1071 ac yna Philip de Breos tua 1086. Newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn i Owain Glyndŵr ei ddinistrio. Yn 1196 bu byddin Rhys ap Gruffudd (neu'r Arglwydd Rhys) yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger Mortimer o Wigmore a Hugh de Say.
Mae'r gymuned yn cynnwys rhan sylweddol o Fforest Clud, gan gynnwys y pwynt uchaf, Rhos Fawr (660 medr). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 410.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]