Enw llawn | Manchester United Football Club (Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig) | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | The Red Devils[1] | |||
Sefydlwyd | (fel Newton Heath LYR F.C.) Newid enw yn 1902 i Manchester United F.C. | |||
Maes | Old Trafford (sy'n dal: 74,140[2]) | |||
Perchennog | Manchester United plc (NYSE: MANU) | |||
Cyd-Gadeiryddion | Joel a Avram Glazer | |||
Cynghrair | Premier League | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Tymor cyfredol |
Tîm pêl-droed o Fanceinion, Lloegr yw Manchester United Football Club (Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig) sef tîm pêl-droed mwyaf llwyddiannus Uwchgynghrair Lloegr ac un o dimau pêl-droed mwyaf poblogaidd yn y byd.
Mae'r tîm yn chwarae yn stadiwm Old Trafford yng nghanol y ddinas, stadiwm sy'n dal 75,635 .o gefnogwyr[3].
Mae nifer yn mynnu mai Manchester United hefyd yw clwb pêl-droed mwyaf poblogaidd y byd, gyda dros 75 miliwn o gefnogwyr ledled y byd a thros 200 clwb cefnogi swyddogol.[4] Dywed eraill fody niferoedd yn nes at 333 miliwn.[5] Roedd y clwb yn un o'r clybiau wnaeth sefydlu Uwchgynghrair Lloegr yn 1992, ac mae wedi chwarae yng nghynghrair uchaf Lloegr ers 1975. Mae cyfartaledd tyrfaoedd y clwb yn flynyddol uwch nag unrhyw glwb arall yn Lloegr, heblaw am chwe thymor yn unig ers 1964/65.[6]
Mae Manchester United wedi ennill Cwpan Lloegr 12 o weithiau, Uwchgynghrair Lloegr ddeg gwaith, Cwpan Cynghrair Lloegr ddwywaith, Cwpan UEFA unwaith a Chwpan Ewrop dair gwaith.
Y clwb yw'r ail clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Lloegr tu ol i Lerpwl; mae wedi ennill 20 o dlysau ers i Alex Ferguson gael ei benodi'n rheolwr ym Mis Tachwedd 1986. Maen nhw wedi ennill prif gynghrair Lloegr 20 o weithiau. Ym 1968 daethant y tîm cyntaf o Loegr i ennill cwpan Ewrop, drwy guro S.L. Benfica 4-1. Enillon nhw ail gwpan Ewrop ym 1999 fel rhan o'r trebl, cyn ennill eu trydydd cwpan yn 2008, bron 40 mlynedd i'r diwrnod ers ennill am y tro cyntaf.
Ers diwedd y 90au mae'r clwb wedi bod yn un o'r rhai mwyaf cyfoethog yn y byd, yn bennaf oherwydd ei berchennog Martin Edwards, gyda'r incwm mwyaf o unrhyw dîm pêl-droed, ac ar hyn o bryd y clwb mwyaf cyfoethog mewn pêl-droed a hefyd mewn unrhyw gamp gyda gwerth o £897 miliwn yn Mai 2008. Roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol G-14 sef grwp o dimau gorau Ewrop ac erbyn hyn mae'n rhan o'r European Club Association.
Capten presennol y clwb yw Ashley Young a olynodd Antonio Valencia yn 2019.