Martin Luther

Martin Luther
GanwydMartin Luder Edit this on Wikidata
10 Tachwedd 1483 Edit this on Wikidata
Lutherstadt Eisleben Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd11 Tachwedd 1483 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 1546 Edit this on Wikidata
Lutherstadt Eisleben Edit this on Wikidata
Man preswylLutherstadt Eisleben, Mansfeld, Magdeburg, Eisenach, Erfurt, Wittenberg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, diwinydd, athro cadeiriol, cyfreithiwr, cyfieithydd y Beibl, emynydd, diwygiwr Protestannaidd, athronydd, gweinidog bugeiliol, llenor, pregethwr, cyfansoddwr, copïwr, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Swyddacademydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Wittenberg Edit this on Wikidata
Adnabyddus amy Naw Deg a Phum Pwnc Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAwstin o Hippo Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Almaenig, y Diwygiad Protestannaidd, Protestaniaeth Edit this on Wikidata
TadHans Luther Edit this on Wikidata
MamMargaretha Luther Edit this on Wikidata
PriodKatharina von Bora Edit this on Wikidata
PlantElisabeth Luther, Paul Luther, Magdalena Luther, Margarete Kunheim, Martin Luther, Johannes Luther Edit this on Wikidata
llofnod

Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 148318 Chwefror 1546). Ef fu'n gyfrifol am symbylu'r Diwygiad Protestanaidd.

Ganwyd Martin Luther yn Eisleben yn Sacsoni. Treuliodd 1505 fel mynach yn Erfurt, a gweithiodd fel doctor diwinyddiaeth yn Wittenburg yn 1512.

Ar 31 Hydref 1517 hoeliodd Martin Luther ddarn o bapur ar ddrws eglwys gadeiriol Wittenberg a oedd yn rhestru 95 o ddadleuon yn erbyn yr Eglwys Babyddol. Gwrthwynebai'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gydag arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonnell datguddiad dwyfol.

Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Bu'n ysbrydoliaeth i ddatblygiad Prostaniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Ffrainc lle adnabwyd hwy fel yr Hiwgenotiaid.

Dychwelodd i Eisleben a bu farw yno. Claddwyd ym mynwent Eglwys y Gastell yn Wittenburg.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in