Marwnad

Ystyr y gair marwnad yn llenyddiaeth Gymraeg yw 'galargan, cerdd yn mynegi galar am berson marw' (marw 'marwolaeth' + nad 'cri, llef'). Cytras yw'r gair Llydaweg marvnad a'r Hen Wyddeleg marbnad. Er y gellir ei ddefnyddio i gyfieithu'r gair Saesneg elegy neu lament, mae'n ffurf arbennig yn y Traddodiad Barddol Cymraeg.

Mae'n ffurf lenyddol hen iawn, ac yn deillio yn ôl pob tebyg o swyddogaeth y beirdd Celtaidd. Ceir sawl ffurf, e.e. 'awdl farwnad', 'cywydd marwnad', 'englynion marwnad', ac ati. Mae'n perthyn i'r canu mawl neu foliant. Ceir nifer o enghreifftiau yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr.

Gellid canu marwnad i anifail hefyd. Mae gan y bardd enwog Cynddelw Brydydd Mawr 'Farwnad i'w geiliog ei hun', er enghraifft. Yn ddiweddarach roedd rhai o'r cywyddwyr yn hoff o gael tipyn o hwyl ar draul cyd-fardd trwy ganu marwnad ffug ddoniol iddo. Ond ceir sawl enghraifft o farwnadau go-iawn i fardd marw yn ogystal, e.e. gan Cynddelw eto i Fleddyn Fardd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy