Marwolaeth

Marwolaeth
Enghraifft o'r canlynoldiwedd, cysyniad, nodwedd Edit this on Wikidata
Mathdigwyddiad Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebgenedigaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmarwolaeth celloedd, proses aml-organebau, proses un-organeb, philosophy of death Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Marwolaeth wedi'i ymgorffori mewn ysgerbwd pladurwr yn Eglwys Llangar.
Darlun gorllewinol o farwolaeth, sgerbwd yn cario pladur.
Kuoleman puutarha, Hugo Simberg (1906).

Marwolaeth yw corff byw yn rhoi'r gorau i bob swyddogaeth fiolegol sy'n cynnal bywyd; diwedd bywyd organeb. Ar gyfer organebau gydag ymennydd, gellir diffinio marwolaeth hefyd fel yr ymennydd cyfan yn rhoi'r gorau iddi, a hynny'n ddiwrthdro, gan gynnwys coesyn yr ymennydd, ac weithiau defnyddir marwolaeth yr ymennydd fel diffiniad cyfreithiol o farwolaeth, yn hytrach na'r galon yn peidio curo. Mae'r corff, fel arfer, yn dechrau dadelfennu yn fuan ar ôl marwolaeth.[1] Mae marwolaeth yn broses naturiol, anochel sy'n digwydd ar ddiwedd einioes pob organeb. Ond mae rhai organebau, megis Turritopsis dohrnii (rhywogaeth o slefren fôr) yn fiolegol anfarwol. Fodd bynnag, gallant ddal i farw o ddulliau eraill heblaw heneiddio.[2]

Gall marwolaeth gyfeirio at ddiwedd bywyd fel digwyddiad neu gyflwr. Gall nifer o ffactorau gyfrannu at farwolaeth organeb gan gynnwys clefyd, dinistr cynefin, diffyg maethiad, damweiniau, ayyb. Prif achos marwolaeth ddynol yn ngwledydd datblygedig yw clefydau o achos oed. Mae marwolaeth yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant dynol yn ogystal â nifer o grefyddau. Ym meddygaeth mae diffiniad biolegol marwolaeth wedi dod yn gymhleth iawn wrth i dechnoleg ddatblygu.[3][4]

Defnyddir y gair 'trigo' hefyd am gorff marw ee trigodd y gath bore ddoe, ac yn eironig iawn, mae'r gair hefyd yn golygu 'byw' ee trigodd yr hen wraig mewn bwthyn gwyngalch. Hen air am fawr yw 'trengi', sy'n dod o'r gair 'tranc'. Arferid ynganu 'marw' cyn y canoloeddoedd fel 'marf', gair unsill, dyna pam nad ynganir yr 'w' yn y gair marwnad (cerdd i rywun sydd wedi marw). Mae 'marwnad', felly'n ddeusill.

Mae darganfod pryd yn union mae rhywun wedi marw yn bendant wedi bod yn anodd. I ddechrau, diffiniwyd marwolaeth fel un oedd yn digwydd pan ddaeth anadlu a churiad y galon i ben, statws a elwir yn farwolaeth glinigol o hyd.[5] Fodd bynnag, nid oedd datblygiad CPR bellach yn golygu ei fod yn anghildroadwy.[6] Marwolaeth yr ymennydd oedd yr opsiwn nesaf, ond mae sawl diffiniad ar gyfer hyn. Mae rhai pobl yn credu bod yn rhaid i holl swyddogaethau'r ymennydd ddod i ben. Mae rhai yn credu, hyd yn oed os yw'r asgwrn cefn yn dal yn fyw, mae'r bersonoliaeth a'r hunaniaeth yn cael eu colli'n anadferadwy, felly dylai'r person fod yn gwbl farw.[7]

Ystyrir marwolaeth yn nhermau'r organebau cyfan; y broses debyg a welir mewn cydrannau unigol o organeb, megis celloedd neu feinweoedd, yw necrosis.[8] Gall rhywbeth nad yw'n cael ei ystyried yn organeb, fel firws, gael ei ddinistrio'n gorfforol ond ni ddywedir ei fod yn marw, gan nad yw firws yn cael ei ystyried yn fyw yn y lle cyntaf.[9] O ddechrau'r 21g, mae tua 56 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn ledled y byd. Y rheswm mwyaf cyffredin yw clefyd cardiofasgwlar, sef clefyd sy'n effeithio ar y galon.[10]

Mae gan lawer o ddiwylliannau a chrefyddau gysyniad o fywyd ar ôl marwolaeth a gallant hefyd fod â'r syniad o farnu gweithredoedd da a drwg y person byw. Ceir arferion gwahanol hefyd ar gyfer anrhydeddu’r corffmarw, megis angladd, amlosgiad, neu gladdedigaeth.[11] Yn y cyfnod Modern, y cyntaf yng ngwledydd Prydain i gael yr hawl i amlosgi oerson (ei fab) oedd y Cymro, William Price.

Mae astudiaeth a elwir yn biogerontoleg yn ceisio dileu marwolaeth trwy heneiddio naturiol mewn bodau dynol, yn aml trwy gymhwyso prosesau naturiol a geir mewn rhai organebau.[12] Fodd bynnag, gan nad oes gan fodau dynol y modd i gymhwyso hyn i'w hunain (hyd yma), mae'n rhaid iddynt ddefnyddio ffyrdd eraill i gyrraedd yr hyd oes mwyaf posibl ar gyfer bod dynol, megis lleihau calorïau, mynd ar ddeiet ac ymarfer corff.[13]

Erbyn 2022, roedd cyfanswm o 109 biliwn o bobl wedi marw, neu tua 93.8% o'r holl fodau dynol i fyw erioed.

  1. Hayman, Jarvis (2016). Human body decomposition. Marc Oxenham, Australian National University. School of Archaeology and Anthropology. Amsterdam. ISBN 978-0128037133. OCLC 945734521.
  2. Masamoto, Yui; Piraino, Stefano; Miglietta, Maria Pia (1 December 2019). "Transcriptome Characterization of Reverse Development in Turritopsis dohrnii (Hydrozoa, Cnidaria)". G3: Genes, Genomes, Genetics 9 (12): 4127–4138. doi:10.1534/g3.119.400487. PMC 6893190. PMID 31619459. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6893190.
  3. DeGrazia, David (2021), Zalta, Edward N., ed., "The Definition of Death", The Stanford Encyclopedia of Philosophy (Metaphysics Research Lab, Stanford University), https://plato.stanford.edu/archives/sum2021/entries/death-definition/, adalwyd 2022-07-23
  4. Parent, Brendan; Turi, Angela (2020-12-01). "Death's Troubled Relationship With the Law". AMA Journal of Ethics 22 (12): 1055–1061. doi:10.1001/amajethics.2020.1055. ISSN 2376-6980. PMID 33419507. https://journalofethics.ama-assn.org/article/deaths-troubled-relationship-law/2020-12. Adalwyd 23 July 2022.
  5. United States. President's Commission for the Study of Ethical Problems in Medicine and Biomedical and Behavioral Research (1981). Defining Death: A Report on the Medical, Legal and Ethical Issues in the Determination of Death · Part 34. The Commission. t. 63.
  6. United States Department of the Army (1999). Leadership Education and Training (LET 1). United States Department of the Army. t. 188.
  7. Zaner, Richard M. (2011). Death: Beyond Whole-Brain Criteria (arg. 1st). Springer. tt. 77, 125. ISBN 978-9401077200.
  8. Proskuryakov, Sergey Y.; Konoplyannikov, Anatoli G; Gabai, Vladimir L (1 February 2003). "Necrosis: a specific form of programmed cell death?". Experimental Cell Research 283 (1): 1–16. doi:10.1016/S0014-4827(02)00027-7. PMID 12565815. https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S0014482702000277.
  9. Louten, Jennifer (2016). Essential Human Virology. Elsevier Science. t. 6. ISBN 978-0128011713.
  10. Richtie, Hannah; Spooner, Fiona; Roser, Max (February 2018). "Causes of death". Our World in Data. https://ourworldindata.org/causes-of-death#:~:text=Cardiovascular%20diseases%20are%20the%20leading,second%20biggest%20cause%20are%20cancers.. Adalwyd February 14, 2023.
  11. Newcomb, Tim (October 17, 2019). "7 Unique Burial Rituals Across the World". Encyclopedia Brittanica. Cyrchwyd February 16, 2023.
  12. Stambler, Ilia (October 1, 2017). "Recognizing Degenerative Aging as a Treatable Medical Condition: Methodology and Policy". Aging and Disease 8 (5): 583–589. doi:10.14336/AD.2017.0130. PMC 5614323. PMID 28966803. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5614323.
  13. Fontana, Luigi; Partridge, Linda; Longo, Valter L. (April 16, 2010). "Extending Healthy Life Span—From Yeast to Humans". Science 328 (5976): 321–326. Bibcode 2010Sci...328..321F. doi:10.1126/science.1172539. PMC 3607354. PMID 20395504. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3607354.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy