Arwyddair | Fatti maschii, parole femine |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Enwyd ar ôl | Henrietta Maria |
Prifddinas | Annapolis |
Poblogaeth | 6,177,224 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Wes Moore |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, America/Efrog Newydd, UTC−05:00, UTC−04:00 |
Gefeilldref/i | Kanagawa, Jalisco |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states, Canolbarth yr Iwerydd |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 32,131 km² |
Uwch y môr | 105 metr, 350 troedfedd |
Gerllaw | Chesapeake Bay, Afon Potomac, Afon Susquehanna, Afon Patuxent, Afon Anacostia, Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Delaware, District of Columbia, Virginia, Gorllewin Virginia, Pennsylvania |
Cyfesurynnau | 39°N 76.7°W |
US-MD | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Maryland |
Corff deddfwriaethol | Maryland General Assembly |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Maryland |
Pennaeth y Llywodraeth | Wes Moore |
Mae Maryland yn dalaith yn nwyrain yr Unol Daleithiau, ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'n ymrannu'n ddwy ardal ddaearyddol; gwastadir arfordirol Cefnfor Iwerydd, a ymrennir yn ei thro gan Fae Chesapeake, ac ardal o ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin sy'n rhan o Fryniau'r Alleghenies. Roedd Maryland yn un o 13 talaith gwreiddiol yr Unol Daleithiau. Y Saeson oedd yr Ewropeiaid cyntaf i ymsefydlu yno. Fe'i rhoddwyd ganddynt i George Calvert, Baron 1af Baltimore, yn 1632 ac fe'i henwyd yn Maryland ganddo ar ôl ei wraig Henrietta Maria. Yn ddiweddarach roedd yn lloches i Gatholigion yn ffoi erledigaeth yn Lloegr. Annapolis yw'r brifddinas ac mae Baltimore yn borthladd pwysig.