Matt Damon

Matt Damon
LlaisMatt Damon - The Film Programme - 17 Aug 2007 - b007w3c5.flac Edit this on Wikidata
GanwydMatthew Paige Damon Edit this on Wikidata
8 Hydref 1970 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, actor llais, actor, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd, actor teledu Edit this on Wikidata
Taldra1.78 metr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadKent Telfer Damon Edit this on Wikidata
MamNancy June Carlsson Page Edit this on Wikidata
PriodLuciana Bozán Barroso Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Satellite Award for Best Cast – Motion Picture, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
llofnod

Actor a dyngarwr Americanaidd yw Matthew Paige Damon (ganwyd 8 Hydref 1970). Enillodd Wobr yr Academi am y Sgript Ffilm Wreiddiol Orau am ei sgriptio yn Good Will Hunting a chafodd ei enwebu am chwarae'r prif rôl yn yr un ffilm. Wrth i'w boblogrwydd gynyddu ers y ffilm ym 1997, mae ef bellach wedi cydweithio â sêr mawr ffilmiau'r brif ffrwd a chaiff ei ystyried bellach yn un o brif actorion Hollywood.

Mae Damon wedi serennu mewn ffilmiau poblogaidd megis Saving Private Ryan, The Talented Mr. Ripley, y gyfres [[Ocean's Eleven|Ocean's]], y gyfres Bourne, Syriana, The Good Shepherd a The Departed. Mae ef wedi ennill amryw o wobrau am ei berfformiadau mewn ffilmiau gwahanol ac mae ganddo seren ar Lwybr Enwogrwydd Hollywood. Mae Damon yn un o'r pump ar hugain actor i gael ei dalu fwyaf erioed. Yn 2007, cafodd ei enwi fel y Dyn Byw Mwyaf Rhywiol gan gylchgrawn People.

Bu Damon yn weithredol iawn gyda gwaith elusennol hefyd, gan gynnwys yr Ymgyrch One a'r h2O Africa Foundation. Mae gan Damon a'i wraig, Luciana Bozán Barroso, ddwy ferch, Isabella a Gia, a llysferch Alexia o briodas blaenorol Barroso.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy