Meillionen goch | |
---|---|
Y meillionen goch yn agos | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Fabales |
Teulu: | Fabaceae |
Is-deulu: | Faboideae |
Genws: | Trifolium |
Rhywogaeth: | T. pratense |
Enw deuenwol | |
Trifolium pratense L. |
Planhigyn blodeuol bychan ydy'r meillionen goch (Lladin: Trifolium pratense; Saesneg: Red clover) a cheir tua 300 gwahanol fath yn nheulu'r meillion. O gael llonydd, gall dyfu i uchder o 80 cm ond mae'r maint yn dibynnu ar ansawdd y pridd. Mae'r dail rhwng 15–30 mm o hyd ac 8-15mm o led, yn wyrdd gyda siap lleuad ar hanner allanol y ddeilen. Mae'r deilgoesyn (petiol) yn 1–4 cm o hyd. Pinc tywyll yw lliw'r blodyn pan mae'n ymddangos, 12-15mm o hyd.
Caiff y planhigyn ei ddefnyddio, yn draddodiadol, at nifer o anhwylderau oherwydd ei fod yn cynnwys y canlynol: calsiwm, cromiwm, magnesiwm, niacin, ffosfforws, potasiwm, thiamin a Fitamin C. Dyma'r planhigyn sy'n cynnwys fwyaf o isofflafonau o holl blanhigion y byd; (cemegolyn yw hwn sy'n hydoddi mewn dŵr ac sy'n gweithredu fel estrogen - gweler isod.