Math | gwlad ar un adeg, petty kingdom, vassal state |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.758°N 3.835°W |
Cantref yn ne teyrnas Gwynedd oedd Meirionnydd. Roedd yn gorwedd rhwng Afon Mawddach yn y gogledd ac Afon Dyfi yn y de ar lan Bae Ceredigion. O'r de i'r gogledd ymestynnai o Aberdyfi i fryniau'r Rhobell Fawr (i'r gogledd o dref Dolgellau heddiw. Ffiniai â chantrefi Ardudwy a Phenllyn i'r gogledd, cwmwd Mawddwy a chantref Cyfeiliog yn nheyrnas Powys i'r dwyrain a Genau'r Glyn, Ceredigion dros aber Afon Dyfi i'r de.
Fe'i rhennid yn ddau gwmwd: Tal-y-bont yn y gogledd ac Ystumanner yn y de. Cantref mynyddig ydoedd, gyda dyffrynnoedd hir yn rhedeg ar o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain a chymoedd anghysbell.