Meirionnydd (etholaeth seneddol)

Meirionnydd
Etholaeth Sir
Creu: 1542
Diddymwyd: 1983
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Etholaeth seneddol Meirionnydd oedd yr etholaeth seneddol ar gyfer yr hen Sir Feirionnydd (Meirion). Un o'r gwleidyddion enwocaf i gynrychioli'r etholaeth wledig hon oedd y Rhyddfrydwr radicalaidd Tom Ellis, fu'n AS Meirionnydd rhwng 1886 ac 1899.

Yr AS olaf i ddal sedd Meirionnydd yn San Steffan oedd Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), a ddaeth yn ddiweddarach yn un o'i harweinyddion. Cafodd y sedd ei dileu ym 1983 pan ffurfiwyd etholaeth newydd Meirionnydd Nant Conwy, a gipiwyd gan Dafydd Elis-Thomas i Blaid Cymru.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy