Michael Marra | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Chwefror 1952 ![]() Dundee ![]() |
Bu farw | 23 Hydref 2012 ![]() Ninewells Hospital ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | cerddor, canwr-gyfansoddwr ![]() |
Cerddor o Albanwr o Dundee oedd Michael Marra (17 Chwefror 1952 – 23 Hydref 2012).
Roedd yn fwyaf enwog am ysgrifennu caneuon, ond roedd o'n gerddor profiadol yn y byd gwerin ac wedi perfformio drwy wledydd Prydain, Awstralia a'r Unol Daleithiau ac wedi cydweithio efo cwmnïau theatr a dawns. Bu'n canu efo Cerddorfa Symffoni yr Alban a Cherddorfa Genedlaethol Yr Alban. Fe oedd awdur y ddrama, St Catherine's Day, ac ysgrifennodd gyfrol o straeon byrion, Karma Mechanics a hefyd yr opera Nan Garland. Cyhoeddodd sawl CD, gan gynnwys On Stolen Stationery, The Mill Lavvies, Posted Sober, Candy Philosophy, Pax Vobiscum, Gaels Blue, Quintet a Michael Marra.
Roedd ganddo radd o Brifysgol Dundee ac o Brifysgol Caledonia Glasgow.
Bu farw o gancr yr ysgyfaint yn 2012.